Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Meeting Venue: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Meeting date: |
Dydd Mawrth, 5 Mawrth 2013 |
|
|||
|
|
||||
Meeting time: |
09:00 |
|
|||
|
|
||||
This meeting can be viewed on Senedd
TV at:
|
|||||
|
|||||
|
|||||
Concise Minutes: |
|||||
|
|
|
|||
Assembly Members: |
|
Darren Millar (Cadeirydd) Mohammad Asghar Mike Hedges Julie Morgan Gwyn Price Jenny Rathbone Aled Roberts Jocelyn Davies |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Witnesses: |
|
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Committee Staff: |
|
Tom Jackson (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
2. Sesiwn Friffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 'Caffael a Rheoli Gwasanaethau Ymgynghori'
2.1 Croesawodd y Cadeirydd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru; Paul Dimblebee, Cyfarwyddwr Grŵp; a Jeremy Morgan, Arbenigydd Perfformiad, i’r cyfarfod.
2.2 Cafodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei wahodd gan y Cadeirydd i wneud cyflwyniad i’r Pwyllgor ar ei adroddiad: 'Caffael a Rheoli Gwasanaethau Ymgynghori'.
3. Sesiwn Friffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 'Contract Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru: Cynnydd o ran Sicrhau’r Manteision a Fwriadwyd'
3.1 Croesawodd y Cadeirydd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru; Dave Thomas, Cyfarwyddwr Grŵp; a Malcolm Latham o’r adran Archwilio Perfformiad i’r cyfarfod.
3.2 Cafodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei wahodd gan y Cadeirydd i wneud cyflwyniad i’r Pwyllgor ar ei adroddiad: 'Contract Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru: Cynnydd o ran Sicrhau’r Manteision a Fwriadwyd'.
4. Papurau i'w nodi
4.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Chwefror 2013.
5. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
6. Ystyried yr opsiynau ar gyfer ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 'Caffael a Rheoli Gwasanaethau Ymgynghori'
6.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod sut yr oedd am ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, 'Caffael a Rheoli Gwasanaethau Ymgynghori', a chytunodd i gynnal ymchwiliad byr.
7. Ystyried yr opsiynau ar gyfer ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 'Contract Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru: Cynnydd o ran Sicrhau’r Manteision a Fwriadwyd'
7.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod sut yr oedd am ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, 'Contract Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru: Cynnydd o ran Sicrhau’r Manteision a Fwriadwyd', a chytunodd i gynnal ymchwiliad byr.
8. Ystyried yr opsiynau ar gyfer ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 'Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg'
8.1 Bu’r Pwyllgor yn ystyried yr opsiynau ar gyfer ei ymchwiliad i gasgliadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, 'Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg', a gofynnodd i’r Clerc baratoi cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad.
9. Ystyried adroddiad drafft y Pwyllgor ar broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen
9.1 Bu’r Pwyllgor yn ystyried ei adroddiad drafft ar broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen, a chytunodd i ystyried gwelliannau terfynol i’r adroddiad drafft ar ffurf electronig.
9.2 Bydd y Pwyllgor yn cyhoeddi’r adroddiad yn fuan.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.